Cer i Garu...sori...GRAFU!

Thu 07 Nov 2019 to Fri 08 Nov 2019

Thu 7 Nov 2019, 7.30pm - Cer i Garu...sori...GRAFU!
[Perfformir yn Gymraeg/Performed in Welsh]

Fri 8 Nov 2019, 7:30pm - LOVECRAFT (Not the Sex Shop in Cardiff)
[Performed in English/Perfformir yn Saesneg]

Cyd-gynhyrchwyd gan Carys Eleri a Chanolfan Mileniwm Cymru

 

Mae Cer i Grafu...sori...Garu yn addasiad Cymraeg o ‘Lovecraft’, sioe arobryn gomedi-gerddorol un fenyw, sy’n trafod niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd, yn ffres o Ŵyl Ffrinj Caeredin.

Dyma sioe sy’n llawn hwyl a sbri a digonedd o wyddoniaeth doniol. Bydd Carys Eleri yn ein tywys ni ar daith ei bywyd drwy lygaid ei phrofiadau o gariad ac unigrwydd, gyda power-ballad o’r 80au i broffil Tinder.

Dewch i ddarganfod sut mae cariad yn gweithio y tu mewn i ni i gyd, pam ei fod yn achosi inni wneud pethau boncyrs, a pham mai cwtsho yw’r ateb bob tro.

Twll dy dîn di, epidemig unigrwydd! Mae Carys yn dynn ar dy ôl di!

TOCYNNAU!

★★★★★
“IF FLIGHT OF THE CONCHORDS WAS REIMAGINED AS A ONE-WOMAN SHOW, MAYBE THESE ARE THE SONGS THEY WOULD COME UP WITH.”
Western Mail

★★★★
“HILARIOUSLY RELATABLE, A REALLY SPECIAL INTIMATE EVENING”
Theatre Full Stop

Enillydd yr wythnos am y Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ffrinj Adelaide 2019

Cynhyrchiad Bach Gorau'r British Theatre Guide 2018

Enwebwyd Carys am wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau, dewiswyd hi ar gyfer Lleisiau Cymru BBC Writers Room, ac enillodd wobr am yr Actores Orau yng Ngwobrau Theatr Cymru.

Canllaw oed: 16+ (Yn cynnwys iaith gref a themâu sy’n addas i oedolion)
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr
Perfformir yn Gymraeg
Tocynnau £14 / £12 Myfyrwyr

Share this page

Signup

×