Y Leith Volcano

Fri 04 Aug 2017 to Sat 26 Aug 2017

Ein lleoliad ar gyfer y Fringe yn 2017 oedd eglwys brydferth ond adfeiliedig yng nghanol Leith, y rhoddwyd bywyd newydd iddi yn ystod mis Awst fel gwagle unigryw ar gyfer theatr, cerdd a dawns annibynnol ac uchelgeisiol yn y Fringe. Y Leith Volcano yw’r prosiect Fringe diweddaraf a mwyaf uchelgeisiol gan y Volcano ar y cyd â phartneriaid Leith Volcano. Cadwch lygad allan am brosiectau yn y dyfodol.

PARTNERIAID LEITH VOLCANO: BISCUIT FACTORY | DECAGRAM | BARNACLES & BONES

“Mae’r fringe go iawn yn fyw ac iach ac yn byw yn Leith [...] tair sioe wych gefn wrth gefn - teimlo fel De Marco Gallery o 1990 ond wedi ei raglennu’n well. Llongyfarchiadau i’r tîm Volcano am greu lle sy’n crynhoi i’r dim gwir ysbryd y fringe (sy’n cael ei anghofio mwyfwy erbyn hyn)!” Y Cyngor Prydeinig

Diolch i’r holl bartneriaid, cydweithwyr, staff, artistiaid, ffrindiau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr lleol sydd wedi cynorthwyo i wneud Leith Volcano’n bosib, a diolch yn arbennig i bawb ddaeth i weld sioe neu gig neu i fwynhau yn y bar. Diolch i Oh Really Creative, Custom Lane, Top Out Brewery, Black Metal Brewery, Leith Creative, The Hideout Cafe, Stage Lighting Services, Hanging Rock, PrintSponge a Leith Copy & Print. Diolch arbennig i Ed Stack, Radomir Veverka, Owen O’Leary, Fran Roberts, Liam Gardiner, Hal Prescott, Anna, Bree, Eloy a Matt.

Cyflwynwyd SEAGULLS yn y Leith Volcano gyda chefnogaeth gan y cynllun Cymru yng Nghaeredin gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Roedd yn rhan o Arddangosfa Caeredin y Cyngor Prydeinig.

Crëwyd y Leith Volcano (Lleoliad Fringe 183) yn adeilad a thiroedd segur Eglwys Esgobaethol St James, 119 Constitution Street, Caeredin, EH6 7AE.

A trailer for Volcano's Seagulls, with a glimpse inside the venue...

RHAGLEN THEATR 2017
VOLCANO THEATRE - SEAGULLS
ROBBIE THOMSON / CRYPTIC - XFRMR
IMPERMANENCE DANCE THEATRE - SEXBOX
LOOK LEFT LOOK RIGHT - SEE ME NOW
FIGS IN WIGS - OFTEN ONSTAGE
POWYS DANCE - FLYING ATOMS
INVULNERABLE NOTHINGS - BLOODY POETRY

ARTISTIAID CERDD FRINGE CAEREDIN 2017
Atzi | Awry | BMX Bandits | Ruth Barrie | Mairi Campbell | Exterior | Featherwest | Nicki Haire | Aline Homzy | RM Hubbert | Phil Kay | Kikazaru | King Eider | Su-a Lee | Loki  | Main Ingredient | Mima & the Fuse | Meursault | PAL | Pleasure Pool  | Raza | Samhach Quartet | Sealionwoman | Stones | Esther Swift | The Reverse Engineer | Robbie Thomson | Sara and the Snakes | Some Chick Called Bob | Unstable Creations | Laura Jane Wilkie | Ryan van Winkle | The Vegan Leather
Programmed by Decagram, with special events from Song, By Toad and Womenbeing.
 

Tîm Leith Volcano
Cyfarwyddwr Artistig PAUL DAVIES
Rheolwr Cynhyrchu / Cynllunydd Goleuo / Goruchwyliwr Safle BEN STIMPSON
Rheolwr Technegol / Goruchwyliwr Rigio RICH ANDREW
Rheolwr Llwyfan STEFFI PICKERING
Rheolwr Cwmni / Cynhyrchydd KAY DENYER
Brandio’r Lleoliad, Marchnata ac Argraffu VICTORIA BOOBYER
Cyfathrebu CLAUDINE CONWAY
Bar a Cherddoriaeth gan DECAGRAM
Bwyd a Choffi gan BARNACLES & BONES

Share this page

Signup

×